Thursday, 27 March 2014














NEGES Y GWANWYN I YSGOLION CYMRU ODDI WRTH LLYSGENHADAETH GLYNDŴR

O'r diwedd mae'r Gwanwyn wedi cyrraedd - meddant nhw? O leiaf, mae'r dyddiau'n ymestyn, wyn bach yn prancio ym mhobman ac athrawon yn pendroni ar ble i fynd a'r plant ar daith ysgol addysgiadol ddiddorol. Wel, beth am ystyried o ddifrif taith i Gefn Caer, Pennal eleni? Gweler y ffilm yn y ddolen gyswllt isod sy'n cyflwyno Cefn Caer fel Tŷ Canol Oesol diddorol oedd a chysylltiadau agos a Thywysog Owain Glyndŵr:

http://www.youtube.com/watch?v=ZE15-3el35U

Wedi gwylio'r ffilm byddwch yn gallu gweld bod Cefn Caer yn safle hanesyddol diddorol iawn ac, ers i'r ffilm gael ei chynhyrchu sawl blwyddyn yn ôl bellach, mae gan Cefn Caer nawr arddangosfa newydd unigryw a lliwgar ar hanes Cefn Caer o gyfnod y Rhufeiniaid, a'r Gaer bwysig a sefydlwyd ganddynt ar y tir a adnabyddir nawr fel Cefn Caer, hyd at gyfnod Stad Ynysymaengwyn a chysylltiadau'r teulu yma ag Owain Glyndŵr. Gweler y llun isod o agoriad yr Arddangosfa newydd. 



Digonedd i'w weld felly a chyfle gwych i gyfarwyddo'r plant â hanes ein harwr cenedlaethol mwyaf un mewn modd diddorol a hamddenol mewn safle y byddai ef ei hunan wedi bod yn gyfarwydd iawn ag. Dyma safle lle gellir gweld copi arbennig iawn o Lythyr Pennal, ynghyd â Choron Glyndŵr a chopi o ‘Cleddyf y Genedl’  a dyma’r unig safle lle cheir hanes y tŷ a’r cyfan o’i drysorau unigryw gan Elfyn Rowlands sydd yn Rheolwr ar y tŷ hynafol yn ogystal â bod yn Warchodydd ar Goron Glyndŵr.

Ceir cyfle i ymweld â’r Ardd Goffa hudolus, yr unig un o’i math i Arwyr Glyndŵr, lle gellir eistedd i fwyta eich brechdanau yn yr haul. Os digwydd iddi fwrw, dim problem o gwbl, gellir bwyta eich brechdanau ar feinciau yn yr adeilad sy’n cartrefu’r arddangosfa.

Felly, cysylltwch ag Elfyn Rowlands yn ddi-oed i drefnu dyddiad ar gyfer eich trip ysgol.

Cysylltu: Elfyn Rowlands, Cefn Caer, Pennal ger Machynlleth, Powys SY20 9JX   Ffon: 01654 791230   ebost: info@cefncaer.com


Ardd Goffa Arwyr Glyndŵr:

Pwy yw eich Arwr Glyndŵr?

Mae gan bob cymuned drwy Gymru benbaladr ei arwr neu arwyr Glyndŵr hynny yw, y person neu bersonau hynny a fu’n brwydro ochr yn ochr ag Owain Glyndŵr dros Gymru. Lladdwyd nifer enfawr o’r arwyr yma mewn brwydrau ffyrnig yn ystod y Rhyfel hir am annibyniaeth; carcharwyd eraill i farw yn Nhŵr Llundain a daeargelloedd eraill yn Lloegr bell tra bu i rhai dianc i fod yn herwyr am weddill eu bywydau yn hytrach na bradychu Owain a’r achos Cymreig drwy ildio i’r frenhiniaeth Seisnig.

Mae Llysgenhadaeth Glyndŵr o’r gred iddi fod yn hanfodol ein bod, fel cenedl, yn deall a chydnabod cyfraniad yr holl arwyr yma i Rhyfel am Annibyniaeth Owain Glyndŵr os ydym i sylweddoli maint a dwyster yr ymgyrch. Ac i’r diben hynny, rydym yn cynorthwyo ‘Cefn Caer’ i sefydlu ‘Ardd Goffa’ i’r ‘Arwyr Glyndŵr’ yma.

Agorwyd yr ardd yn swyddogol gan Sylvia Rowlands, cyn Faer Machynlleth, yn ystod penwythnos Gŵyl Coroni Glyndŵr Machynlleth 2009, ac erbyn hyn, mae yna unarddeg o gymunedau ledled Cymru wedi noddi plac coffa i’w ‘harwr Glyndŵr’ cymunedol (gweler y rhestr isod) ac mae’r placiau yma eisoes wedi eu cartrefu yn yr ‘Ardd Goffa’.

Placiau Coffa sydd eisoes yn yr ardd:

Er Cof am Gatrin a’i phlant. Rhodd oddi wrth Pobl Tremadog
Er Cof am Is- Cadfridog Rhys Ddu o Geredigion. Rhodd oddi wrth Pobl Ceredigion
Er Cof am Llywelyn ap Gruffydd Fychan. Rhodd oddi wrth Ysgol Farddol Caerfyrddin.
Er Cof am y Canghellor Gruffydd Yonge. Rhodd oddi wrth Llysgenhadaeth Glyndŵr.
Er Cof am Yr Esgob John Trefor. Rhodd oddi wrth Pobl Dyffryn Clwyd.
Er Cof am Phylip Scudamore. Rhodd oddi wrth Pobl Gwent.
Er Cof am Cadwgan o Dreorci. Rhodd oddi wrth Pobl Morgannwg.
Er Cof am Henri Dwn Cydweli. Rhodd oddi wrth Pobl Llanelli a’r cylch.
Er Cof am Gwenllian ferch Owain Glyndwr. Rhodd er cof am Doreen Griffiths.
*Er Cof am Clerwyr Glyndŵr. Rhodd oddi wrth Gethin ap Gruffydd.
*Er Cof am Gwerin Owain. Rhodd gan y brodyr Gethin ac Owain ap Gruffydd.

*Parthed y ddau blac yma. Gan fod Clerwyr Glyndŵr a’r Gwerin Owain yn grwpiau, byddai wedi bod yn anodd (os nad yn amhosibl) i drefnu noddwyr ar gyfer pob un ‘clerwr’ a phob un ‘herwr’ yn unigol. Felly, noddwyd placiau ar eu cyfer fel grwpiau gan y ddau berson a enwir uchod ac maent wedi eu lleoli ar wahân yn yr ardd.

Dylai bod pob cymuned drwy Gymru benbaladr fod yn gwybod pwy yw eu ‘harwr Glyndŵr’ lleol erbyn hyn ond os, am ryw reswm, nad ydych, oni fyddai’n brosiect gwerth chweil ar gyfer eich ysgol i fynd ati i chwilota‘r llyfrau hanes a ffynonellau eraill lleol am hanes eich arwr Glyndŵr? Yna gellid trefnu gweithgaredd codi arian i godi’r £155 sydd ei angen i dalu am blac ar gyfer eich arwr lleol arbennig chi i’w gosod yn yr Ardd Goffa yng Nghefn Caer.

Os ydych am fabwysiadu’r prosiect fel un ar gyfer eich ysgol, byddwn yn ddiolchgar iawn petaech yn gadael i ni wybod mor fuan ag sy’n bosibl. Yn ogystal, pan fydd cost y plac wedi ei godi, hoffem i chi gysylltu â ni eto er mwyn i ni allu cytuno â’r arysgrifen gan fod pob un o’r placiau yn dilyn yr un fformat gydag arwyddlun o Ddraig Aur Owain Glyndŵr wedi ei naddu ar bob un ynghŷd â’r eirfa Lladin “Juratus Oweyn” (Yn ffyddlon i Owain). (Gweler y llun isod fel enghraifft)



Fel dilyniant i’r prosiect, gellid trefnu trip ysgol arall yn y dyfodol i Bennal lle gellir gweld plac 'Arwr Glyndŵr' eich ysgol chi yn ei le ynghyd â’r holl blaciau i eraill o ‘Arwyr Glyndŵr’ y genedl sydd ar arddangos yno.


BANER GLYNDŴR ENFAWR AR GYFER EICH YSGOL

Mae gan Lysgenhadaeth Glyndŵr nifer cyfyngedig (50) o faneri Glyndŵr enfawr 5 X 8 troedfedd o ran maint. Gweler y llun isod:

 Dyma gyfle i brynu un o’r baneri mawr yma ar gyfer eich ysgol chi. Pris yw £15 + £3 cludiant oni bai fod eich ysgol yng nghyffiniau Abertawe lle all fod yn bosibl i ddod a’r faner  i’r ysgol. Fe all eleni fod yn ddyddiad dathlu genedigaeth Owain Glyndŵr yn y flwyddyn 1354. Cynigir dau ddyddiad ar gyfer y geni gan haneswyr sef, 1354 a 1359. Does dim sicrwydd prun sy’n gywir, ond, os am chwarae’n saff, pam ddim dathlu eleni, ac eto yn 2019? A bydd y faner gan yr ysgol yn barod i’w chwifio ar bolyn tu allan i’r ysgol ar gyfer y ddau achlysur. 

Dyddiadau blynyddol ar gyfer dathlu yn ysgolion Cymru:

Dydd Pen-blwydd Owain Glyndŵr…28 o Fai
Dydd ei Goroni a dathlu sefydlu ei Senedd Gymreig ym Machynlleth…21 Mehefin.
Dydd cychwyn y Rhyfel Cymreig am Annibyniaeth 16 Medi.

Felly, digonedd o ddyddiadau dros ddathlu a dros chwifio’r faner fawr. Peidiwch â cholli allan, does ond 50 ohonynt ar gael a hynny oddi wrth Llysgenhadaeth Glyndŵr yn unig.

Llyfr Owain Glyndŵr…The Story Of The Last Prince of Wales.


Awdur y llyfr ardderchog yma yw’r hanesydd Terry Breverton. Mae Terry yn ymchwilydd diflino ac yn awdur ar nifer swmpus o lyfrau yn ymwneud a chymeriadau Cymreig cyffrous yn ogystal â phob agwedd o Gymreictod.

Mae’r llyfr arbennig yma ganddo ar hanes Owain Glyndŵr yn du hwnt o ddiddorol yn ogystal â bod yn du hwnt o addysgiadol. Ceir ei ddefnyddio’n rheolaidd gan Lysgenhadaeth Glyndŵr wrth chwilota am wybodaeth ac mae’n hynod o haws i’w ddarllen gyda llu o luniau diddorol i’w mwynhau. Byddai’r llyfr yma’n un gwych i bori iddo os am drefnu cwis ar hanes Owain Glyndŵr. Cwis ar gyfer y dyddiadau dathlu yn eich ysgol a ‘Cwisiau Tafarn’ i godi arian ar gyfer eich plac ‘Arwr Glyndŵr hwyrach?

Pris y llyfr oedd £15.99 ond, mae’r hyn sydd ar ôl o’r argraffiad cyntaf yn nwylo Llysgenhadaeth Glyndŵr erbyn hyn ac mae’n bosibl i ni allu ei werthu am £8 yr un + £3cludiant.

Mae’r awdur wedi llofnodi pob copi o’r argraffiad cyntaf yma sydd yn nwylo’r Llysgenhadaeth. Bargen heb os, felly, peidiwch â llaesu dwylo, archebwch yn ddi-oed.

Stori fach:

Morwyn Cefn Caer

Un tro, yr oedd morwyn brydferth yn byw yng Nghefn Caer ac fe ddisgynnodd dros ei phen a'i chlustiau mewn cariad a dyn ifanc o'r ardal, ond nid oedd ei rhieni yn hoff ohono ac ni roddasant eu caniatâd i'r cwpl ifanc briodi. Ar õl llawer iawn o ddagrau ar ran y ferch, cafodd ei thad y syniad o osod tasg i'r dyn ifanc brofi faint yr oedd yn caru'r ferch. Fe heriodd y dyn i dreullio'r noson yn noeth ar fynydd Esgairweddan. Fe dderbryniodd y dyn ifanc yr her ond fe aeth â morthwyl pren a throsol gydag ef fel y gallai falu cerrig drwy'r nos er mwyn cadw'n gynnes. Yr oedd hi'n ganol gaeaf, ac er iddo gadw ei hun yn brysur yn torri cerrig, ni allai'r dyn ifanc beidio a chrynu, yr oedd ei ddannedd yn rhincian ac yr oedd yn cael trafferth gweithio gan fod ei fysedd yn fferru. Fe deimlai'n isel iawn nes iddo edrych i lawr o gopa'r mynydd tuag at Cefn Caer a gweld llygedyn o olau yn ffenestr llofft ei gariad. Yr oedd wedi cynnau cannwyll iddo ei weld, ac fe roddodd y golau hwn yr hwb iddo ddyfalbarhau â'i dasg.
Er mawr syndod i dad y ferch, fe ymddangosodd y dyn ifanc yng Nghefn Caer drannoeth ac fe orfodwyd iddo gadw ei addewid a gadael iddynt briodi.
Daeth y Nadolig ac fe ddisgwyliwyd gwesteion teuluol ar gyfer cinio Nadolog. Yr oedd yn afer teuluol iddynt ymddangos yn y gwasanaeth boreol yn y capel, felly fe ofynnodd y rhieni i'r ferch goginio'r ŵydd tra roeddent yn y gwasanaeth. Fe wyliodd y ferch y rhieni'n mynd ac yna fe osododd yr wydd yn un pen o'r tŷ neuadd chynnau cannwyll yn y pen arall. Pan ddychwelodd ei rhieni, yr oedd yr wydd, wrth gwrs, yn parhau heb ei choginio. Fe ofynasant iddi pam nad oedd hi wedi coginio'r wydd fel yr oeddent wedi gofyn iddi ei wneud, ac fe atebodd ei bod wedi rhoi'r un cyfle i'r wydd ag yr oedd wedi ei roi i'w chariad. Yn awr, drwy edrych ar yr ŵydd oer, fe wyddoch sut yr oedd ef wedi teimlo!

Pwy y